R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i
gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y
Tŷ
1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau a gafodd gyda’r Gweinidog Iechyd ynghylch dyrannu cyllid cyfalaf.OAQ(4)0212(FIN)
2. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu cydraddoldeb rhwng y ddau ryw yng Nghymru. OAQ(4)0207(FIN)
3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ei hadran yng Nghanol De Cymru.OAQ(4)0210(FIN)
4. Lynne Neagle (Tor-faen):A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer Tor-faen yn 2013. OAQ(4)0209(FIN) TYNNWYD YNOL
5. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionydd): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ddyrannu cyllid untro i bortffolio’r Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy yn benodol ar gyfer gweithredu polisi morol. OAQ(4)0217(FIN)W
6. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa broses ddiwydrwydd dyladwy y mae’r Gweinidog yn ei defnyddio gydag adrannau Llywodraeth Cymru. OAQ(4)0215(FIN)W
7. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Gweinidog roi amlinelliad o bolisi Llywodraeth Cymru ar lywodraethu moesegol yng Nghymru.OAQ(4)0216(FIN)
8. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):A yw’r Gweinidog wedi cynnal unrhyw asesiad o’r ffordd y bydd newidiadau i’r meini prawf ar gyfer taliadau annibyniaeth bersonol yn effeithio ar bobl anabl yng Nghymru.OAQ(4)0208(FIN)
9. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ariannu dros y deuddeg mis nesaf.OAQ(4)0202(FIN)
10. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yng Nghymru.OAQ(4)0206(FIN)
11. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog hysbysu’r Cynulliad o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran caffael.OAQ(4)0213(FIN)
12. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA). OAQ(4)0204(FIN)
13. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer Canol De Cymru ar gyfer 2013. OAQ(4)0211(FIN)
14. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer 2013. OAQ(4)0214(FIN)W
15. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi preifat/cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(4)0205(FIN)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a
Gwyddoniaeth
1. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Cynllun Cymorth Band Eang Llywodraeth Cymru.OAQ(4)0229(BET)
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am helpu busnesau i fenthyca i fuddsoddi. OAQ(4)0226(BET)W
3. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth bosibl dinas-ranbarthau o ran ysgogi twf economaidd.OAQ(4)0217(BET)
4. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa drafodaethau a gafodd y Gweinidog yn ddiweddar â chynrychiolwyr y diwydiant amaethyddol. OAQ(4)0228(BET)W
5. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru yng nghyswllt cynyddu argaeledd cyfalaf ar gyfer busnesau a mentrau cymdeithasol. OAQ(4)0222 (BET)
6. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatgan beth ym marn panel y sector adeiladu yw’r materion allweddol sy’n effeithio arnynt ar hyn o bryd yn ystod yr hinsawdd economaidd hwn. OAQ(4)0221(BET)
7. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cymorth Llywodraeth Cymru i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru. OAQ(4)0224(BET)
8. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal gyda siopau elusennol am adolygiad Llywodraeth Cymru o ardrethi busnes. OAQ(4)0227(BET)W
9. Russell George (Sir Drefaldwyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi datblygu gwasanaethau symudol 4G yng Nghymru.OAQ(4)0230(BET)
10. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch manteision economaidd sefydlu carchar newydd yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0232(BET)W
11. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gynyddu ffyniant economaidd yng Nghymru. OAQ(4)0223(BET)
12. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru dros y 12 mis nesaf.OAQ(4)0225(BET)
13. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno band eang symudol 4G ledled Cymru. OAQ(4)0219(BET) TYNNWYD YNOL
14. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu entrepreneuriaeth yng Nghymru. OAQ(4)0218(BET)
15. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei chynlluniau i gefnogi economi Gogledd Cymru. OAQ(4)0231(BET)